ALNCo - Mrs Rh. Richards
Ebost - rhiannon.richards@yggynyswen.rctcbc.cymru
Bydd Deddf ALNET (Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg) (Cymru) a chod ALNET yn dod i rym ym mis Medi 2021. Nod Llywodraeth Cymru trwy'r fframwaith statudol yma, yw sicrhau bod pob disgybl ag ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu cyflawni ei botensial llawn.
Mae'r Ddeddf yn disodli'r termau 'anghenion dysgu arbennig' ac 'anawsterau a/neu anableddau dysgu' gyda'r term newydd yma - Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, waeth beth yw difrifoldeb neu gymhlethdod ei anhawster dysgu neu ei anabledd, hawl i gynllun cymorth statudol o'r enw 'Cynllun Datblygu Unigol' (CDU). Bydd plant a phobl ifainc ag ADY yn cael cymorth o'r enw ‘darpariaeth ddysgu ychwanegol’. Bydd yr wybodaeth yma wedi'i nodi yn eu CDU. Mae CDU yn gynllun statudol sy'n cael ei gynnal gan ysgol, Sefydliad AB neu awdurdod lleol sy'n nodi disgrifiad o ADY plentyn neu berson ifanc, y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anhawster dysgu neu ei anabledd yn gofyn amdani, a gwybodaeth gysylltiedig arall.
The ALNET (Additional Learning Needs and Education Tribunal) (Wales) Act and ALNET code comes into force in September 2021. Through this statutory framework the Welsh Government aims to ensure that all learners with ALN (Additional Learning Needs) are supported to overcome barriers to learning and can achieve their full potential.
The Act replaces the terms ‘special educational needs (SEN)’ and ‘learning difficulties and/or disabilities (LDD)’ with the new term ‘additional learning needs (ALN)’. All children and young people with ALN regardless of the severity or complexity of their learning difficulty or disability will be entitled to a statutory support plan called an ‘Individual Development Plan’ (IDP). Children and young people with ALN will receive support called additional learning provision (ALP) which will be set out in their IDP. An IDP is a statutory plan maintained by a school, FE Institution or local authority that sets out a description of a child or young person’s ALN, the additional learning provision (ALP) called for by their learning difficulty or disability, and other associated information.
Frequently asked questions -
https://llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-y-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-cwestiynau-cyffredin-html
https://gov.wales/additional-learning-needs-transformation-programme-frequently-asked-questions