"Mur fy mebyd", Cwm Rhondda. Pan oeddwn yn blentyn yn chwarae ysgol, breuddwydiais am fod yn rhywun a allai wneud gwahaniaeth. Gyda geiriau arwyddair fy ysgol gynradd - "heb iaith heb ddim" - yn rhedeg trwy fy ngwaed, es ati i wireddu'r freuddwyd o ddod yn athrawes ysgol Gymraeg yn y Rhondda. Byrdwn ac yn wir, bwrlwm fy nyletswydd yw datblygu, sbarduno, parchu ac ysbrydoli - a gwneud hyn i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'n destun balchder i mi ddilyn ôl troed Miss Olwen Jones, Mr Meirion Lewis, Mr Ben Jones a Mr Eurof James fel pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen. Yn wreiddiol "Yr Ysgol Gymraeg", rydym yn arddel y teitl gyda balchder ac yn parhau i arwain y ffordd fel yr ysgol gyntaf yn y consortiwm i ennill statws aur y Siarter Iaith. Ein rhodd mwyaf gwerthfawr i'n plant yw anrheg werthfawr dwyieithrwydd sy'n agor dau fyd. Gyda chyffro Cwricwlwm i Gymru, rydym yn cofleidio ein hunaniaeth ac yn llunio llwybr at y dyfodol, a'r Gymraeg yn bont rhwng ddoe a heddiw. Wrth ddathlu 75 mlynedd o addysg Gymraeg, mae geiriau Ben Bowen yn dal mor wir ag erioed: "Rwyf yn blentyn y dyfodol, sy'n etifedd y gorffennol".
Diolch o galon i'r cewri dewr a doeth a frwydrodd dros agor 'Yr Ysgol Gymraeg', i'r staff angerddol sydd wedi cadw fflam yr iaith i losgi'n ddisglair; ac i'n harwyr bach sy'n cerdded trwy ddrysau Ysgol Ynyswen bob dydd ac yn cadw'r galon i guro. Fel y dywed arwyddair Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen: "Cenedl heb iaith, cenedl heb galon".
"Daeth Ysgol Ynyswen i'w hoed!" Rydym yn parhau i ddathlu ein gwerthoedd - parch, cydraddoldeb, hapusrwydd, gwaith tîm a Chymreictod - a'r cyfrifoldeb i'w trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Rydym yn perthyn, yn gweithio fel un i gadw'r iaith yn fyw - "gyda’n ffrindiau gallen ni ei basio’n nôl ac ymlaen, Yn gweithio fel tîm i gadw’r iaith".
"Ond fe dyf cariad fel derwen drwy dymhestloedd oes". Heddiw, mae Ynyswen yn parhau i dyfu'n gryf gyda'i theulu: Bodringallt, Bronllwyn, Llyn y Forwyn, Llwyncelyn a Chwm Rhondda. Rydym yn rym anorchfydol fel clwstwr, yn rhannu'r un gwreiddiau a'r un weledigaeth. Mae'r Gymraeg yn rhedeg fel llinyn euraidd drwy'r chwe ysgol Gymraeg yn y clwstwr, gan ein clymu ynghyd. Cerddwn ymlaen gyda'n gilydd, gan ganu "O bydded i'r hen iaith barhau!"
Cerian Lowri Roberts
Pennaeth/Headteacher YGG Ynyswen 2011 -